Y Pwyllgor Cyllid 
 —
 Finance Committee
  

 


Datganiad o Egwyddorion y mae Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth wneud cynigion cyllidebol[1] (8 Gorffennaf 2021)

Gorffennaf 2021

Cyflwyniad

1. Mae'r papur hwn yn cynnwys cyfres o egwyddorion y dylai Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth baratoi eu cynigion cyllidebol blynyddol.

2. Cred y Pwyllgor Cyllid y dylai amcangyfrifon cyllidebol fod yn dryloyw ac yn ddarbodus, ac y dylent adlewyrchu'r cyfyngiadau ariannol sy'n bodoli yn y sector cyhoeddus.

Dull gweithredu yn seiliedig ar egwyddorion

3. Dylid gosod ceisiadau cyllidebol yng nghyd-destun y sefyllfa ariannu hirdymor yng Nghymru, a'r pwysau ariannol sy'n bodoli yn y sector cyhoeddus ehangach.

4. Dylai ceisiadau ddangos sut y caiff amcanion blynyddol ac amcanion amlflwydd eu blaenoriaethu, eu monitro a'u cyflawni.

5. Ni ddylai Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ragdybio unrhyw gynnydd yn eu cyllidebau, waeth beth fo'r newid yn y grant bloc, gan fod unrhyw gynnydd yn eu cyllidebau yn lleihau'r adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus datganoledig eraill.

6. Dylai Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol geisio gwella eu prosesau a sicrhau arbedion yn barhaus.

7. Mewn achosion lle y gwneir cais am gynnydd mewn cyllid, dylid cefnogi unrhyw gais o'r fath gyda thystiolaeth o'r angen a'r budd sydd ynghlwm wrth y cais, a thystiolaeth o'r ymdrechion a wnaed I leihau costau cysylltiedig. Yn ogystal, dylid egluro a meintioli’r canlyniadau sydd ynghlwm wrth beidio â sicrhau'r cynnydd mewn adnoddau y gofynnwyd amdano.

Y wybodaeth sydd ar gael i'w defnyddio

8. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor Cyllid cyn toriad yr haf am amryw ffactorau y gellir eu defnyddio i lywio cynlluniau cyllideb yn y dyfodol, megis y canllawiau diweddaraf ar gylchoedd gwaith cyflog y sector cyhoeddus, rhagolygon ar gyfer y datchwyddwr cynnyrch mewnwladol crynswth, rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig, ac asesiad gorau Llywodraeth Cymru o lefel gyffredinol y cyllid a fydd ar gael yn y dyfodol. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn anfon y wybodaeth hon ymlaen at Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol i'w hystyried.

Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion

9. Caiff y ddogfen hon ei hadolygu gan y Pwyllgor Cyllid yn ystod y flwyddyn weithredu ac o bryd i'w gilydd wedi hynny, a chaiff ei diweddaru yn ôl yr angen.



[1] Comisiwn y Senedd; Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru; Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru